Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024

15.30 – 17.00 yn Ystafell Gynadledda A, Tŷ Hywel, a thrwy gyfrwng Microsoft Teams

 

Yn bresennol: Mark Isherwood (Cadeirydd), Megan Thomas (Ysgrifennydd), Andrea Gordon, Andrew Harper, Cari Jones, Elizabeth Curtis, Hilary McClean (Capsiynydd), Gillian Styles, Altaf Hussain AS, Jan Underwood, Jenny Meese, Jenny Carroll, Kat Watkins, Kelly Stuart, Kerry Bevan, Marg McNiel, Mike Dafforne, Monique Craine, Rebecca Phillips (Ysgrifennydd y Cofnodion), Kiera Marshall, Becky Ricketts, Ravi Vedi, Tracey Blockwell, Gemma Lelliottt, Paul Bridgeman, Damian Bridgeman, Amanda Say, Shaun Bendle, Nigel Morgan, Rhian Davies, Niamh Salkeld, Shahd Zorob, Willow Holloway, a Teresa Carberry.

 

Ymddiheuriadau: Llyr Gruffydd AS, Sioned Williams AS, Trevor Palmer, a Gary Simpson.

 

1. Croeso

 

Croesawodd Mark Isherwood AS bawb i'r cyfarfod. 

 

2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023

 

Cytunwyd bod y cofnodion yn gywir ac yn wir. 

 

Cynigiwyd gan: Marg McNeil 

Eiliwyd gan:  

 

3. Camau gweithredu yn deillio o'r cofnodion blaenorol

 

Uwchgynhadledd Anabledd: Cyfarfu Megan â Jeremy Balfour, Aelod o Senedd yr Alban (ASA) a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol yr Alban, i drafod yr adnoddau y disgwylir y bydd eu hangen er mwyn cynnal uwchgynhadledd anabledd. Mae Megan wedi cynnal cyfarfodydd pellach gydag Evelyn o'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, sydd wedi cynnal digwyddiad tebyg. Mae’r prif bryder yn ymwneud â goblygiadau’r digwyddiad o ran adnoddau, ac a fyddai’n ymarferol bosibl i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, o ystyried yr amgylchiadau ariannol presennol. Bydd Megan yn parhau i ddiweddaru'r grŵp ar y mater hwn.

 

Yr Ymgyrch ynghylch Taliadau Gofal: Awgrymodd Megan y dylid sefydlu grŵp ar wahân i edrych ar gostau gofal. Gofynnodd Megan i'r rhai sydd â diddordeb i gysylltu â hi drwy e-bost.

 

Clywodd y grŵp fod cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yn edrych ar godi tâl am ofal. Yn sgil hynny, awgrymwyd y dylid bwydo i mewn i’r sgwrs honno.

 

Cynigiodd y Cadeirydd fod y grŵp yn ysgrifennu at  y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Gweinidog.

 

4. Cyflwyniadau

 

Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru (CTA Cymru) – Gemma Lelliott

 

Soniodd Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr CTA Cymru, am weledigaeth y corff, sef creu byd lle gall pawb gael mynediad at drafnidiaeth sy'n diwallu eu hanghenion.

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd y sefydliad waith ymchwil ar gyflwr y sector trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. Yn ôl y gwaith ymchwil hwnnw, mae tua 45 y cant o aelodau’r sefydliad yn ddarparwyr ceir cymunedol bach sydd o dan berchnogaeth leol ac sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Yn ogystal, dangosodd y gwaith ymchwil fod tua 60 y cant o aelodau’r sefydliad naill ai’n gyrff mwy sy’n darparu trafnidiaeth fel eu prif ddiben, neu’n ysgolion neu gyrff cyhoeddus eraill nad ydynt yn darparu trafnidiaeth fel eu prif ddiben, ond sy’n dibynnu ar drafnidiaeth i hwyluso eu prif ddiben.

 

Mae’r CTA wedi nodi rhai o’r heriau sy’n bodoli o ran y rhwydwaith trafnidiaeth gymunedol a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus prif ffrwd ehangach. Ledled Cymru, mae sawl anialwch trafnidiaeth lle nad oes unrhyw opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ar gael i bobl. Yr her arall yw allgau digidol, sy'n achosi problemau i lawer o bobl.

 

Mae cyfleoedd yn bodoli, fodd bynnag, i wella cyflwr y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sef y ddogfen bolisi gyntaf sy’n cydnabod trafnidiaeth gymunedol ochr yn ochr â’r prif fathau eraill o drafnidiaeth.

 

Mae’r CTA yn ceisio atgyfnerthu’r neges nad trafnidiaeth gymunedol yw’r ateb cywir ym mhob sefyllfa, a’r ffaith nad yw pob teithiwr am ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol. Mae am bwysleisio bod pobl am deithio mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw, ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw, am gost y gallant ei fforddio, mewn cerbyd sy'n hygyrch, gyda gyrrwr sy'n deall sut i'w cefnogi, a hynny mewn ffordd na fydd yn arwain at fethdaliad yn sgil costau dychrynllyd. Yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid, mae’r CTA am weld Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cyflawni yn buddsoddi yn y broses o weithio gyda chymunedau at ddibenion ymbweru cymunedau i gyfrannu at y broses o ail-gyflunio’r rhwydwaith trafnidiaeth.

 

Pwysleisiodd Gemma bwysigrwydd darparu hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, mae'r CTA yn ail-lunio ei raglen hyfforddi, a fydd yn cael ei harwain gan sefydliadau ar gyfer pobl anabl. Felly, bydd yr holl weithredwyr ym maes trafnidiaeth gymunedol sy'n cael mynediad i'r hyfforddiant yn elwa ar yr arbenigedd hwnnw, a hynny yn sgil y modd y caiff yr holl yrwyr a’r cynorthwywyr teithwyr eu hyfforddi. 

 

Yn olaf, tynnodd Gemma sylw at y cyfle sydd gan y Grŵp Trawsbleidiol i ddylanwadu ar benderfyniadau’r Senedd a chraffu ar y Bil Trafnidiaeth.


STAND Gogledd Cymru – Julie Meese

 

Mae Julie yn Swyddog Ymgysylltu ym maes Cyfranogi Cymunedol gyda STAND Gogledd Cymru, sefydliad dielw sy’n cefnogi’r broses o uwchsgilio teuluoedd plant a phobl ifanc anabl.

Mae STAND Gogledd Cymru yn deisebu er mwyn ceisio sicrhau bod bathodynnau glas sy’n para gydol oes yn cael eu darparu i bobl sydd â chyflwr gydol oes nad oes disgwyl iddo newid.

 

Yn sgil ychydig o waith ymchwil yn y maes hwn, canfuwyd bod awdurdodau lleol naill ai'n anymwybodol o ddyfarniadau gydol oes, neu fod ganddynt ddealltwriaeth wahanol o'r hyn y byddai trefniant o’r fath yn ei olygu. Nodwyd hefyd nad yw dyfarniad gydol oes yn berthnasol os yw’r cais yn cael ei wneud drwy’r system PIP neu’r system DLA. Nid yw'r rhan fwyaf o'r siroedd yn gwneud unrhyw ddyfarniadau gydol oes oni bai bod y cais yn destun proses a gynhelir gan asesydd annibynnol.  Yn ôl Julie, nid oes gan aseswyr desg unrhyw gymwysterau ym meysydd iechyd, anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau, ac mae'r rhieni sy’n rhan o grwpiau Stand for Change yn bryderus iawn am hyn. Maent o’r farn y dylai unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau o'r fath feddu ar arbenigedd perthnasol yn y meysydd hynny.

 

Mynegodd Mark Isherwood AS ei gefnogaeth i STAND Gogledd Cymru drwy ysgrifennu at Lee Waters AS ynghylch y mater o ddyfarnu bathodynnau glas sy’n para gydol oes, a rhannodd Julie brif bwyntiau ei ymateb. Dywedodd fod y canllawiau a ddarperir i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut i roi’r cynllun bathodyn glas ar waith yn argymell y dylai pob aelod o staff sy’n ymdrin yn rheolaidd ag ymgeiswyr a deiliaid bathodynnau glas gael hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch cydraddoldeb anabledd a ddylai gynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd. Ychwanegodd Julie y dylai aseswyr bathodynnau glas gael hyfforddiant sy’n ymestyn y tu hwnt i hyfforddiant ymwybyddiaeth yn unig.

 

Tynnodd Julie sylw hefyd at y system bresennol, lle mae'n rhaid i bobl anabl wneud cais am fathodyn glas bob 3 blynedd. Yn ei lythyr, dywedodd Lee Waters AS fod y drefn hon yn bodoli i amddiffyn y cynllun rhag ceisiadau twyllodrus ac ymdrechion i’w gamddefnyddio. Mae STAND Gogledd Cymru yn deall yr angen i sicrhau uniondeb y cynllun ac osgoi camddefnydd ohono. Serch hynny, mae’n pryderu am y pwyslais gormodol ar atal twyll uwchlaw buddion bathodynnau glas, ac yn ceisio deall sut mae gorfodi pobl i wneud cais bob 3 blynedd yn lleihau twyll.

 

Cyflwyniad ar y profiad o wneud cais am fathodyn glas – Mike Dafforne    

 

Ategodd Mike eiriau’r siaradwr blaenorol, a rhannodd ei brofiad o wneud cais am fathodyn glas. Roedd ei gais y llynedd yn aflwyddiannus yn gychwynnol, a hynny er gwaethaf ceisiadau llwyddiannus yn y gorffennol. Cafodd wybod hefyd nad oedd proses statudol o wneud apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol. Ar ôl tua 8 mis o frwydro yn erbyn y penderfyniad, a chyda chefnogaeth Mark Isherwood AS, mae Mike bellach wedi gwneud apêl lwyddiannus yn erbyn y penderfyniad hwn. Mae’n teimlo nad yw’r pecyn cymorth a ddefnyddir i bennu cymhwystra ar gyfer bathodynnau glas yn adlewyrchu’r Ddeddf Cydraddoldeb yn llawn.  Gwnaeth Mike gynnig copi o'i gyflwyniad llawn i'r rhai oedd yn dymuno ei ddarllen.

Awgrymodd y Cadeirydd y gellid adlewyrchu’r ddau gyflwyniad mewn ymateb pellach i Lee Waters AS, gan ei wahodd ef, neu ei olynydd, i gyfarfod yn y dyfodol at ddibenion cael ymateb uniongyrchol.

 

Y Tasglu ar Bobl Anabl a Thai – Damian Bridgeman, Damien yw Cadeirydd Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ar Dai.

 

Gofynnodd Damian am gymorth y Grŵp Trawsbleidiol o ran rhoi pwysau ar rai sefydliadau i sicrhau strategaeth dai ar gyfer pobl anabl, ac ar gynrychiolwyr gwleidyddol i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed ar lawr y Senedd.

 

Dywedodd fod tai yn hawl sylfaenol, ond nododd nad yw anghenion pobl anabl yn cael eu diwallu. Mae'r tasglu ar fin cwblhau ei argymhellion, a bydd Damian yn eu rhannu â'r grŵp.

 

Gofynnod i’r grŵp roi cymorth iddo drwy gynnal dadl yn y Senedd sy’n ymdrin â’r rhyngwyneb rhwng anabledd a thai. Yn ddelfrydol, mae Damian yn dymuno gweld cymdeithas dai yn cael ei sefydlu sy’n cael ei rhedeg a’i harwain gan bobl anabl.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal dadl pan fydd gan y tasglu argymhellion.

 

Dywedodd y Cadeirydd, unwaith y bydd yr argymhellion yn cael eu darparu i’r grŵp, efallai y bydd yr aelodau am ystyried gwahodd Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff ymbarél ar gyfer cymdeithasau tai, ynghyd â’r swyddog tai ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolydd o Dewis Cyntaf, cymdeithas dai a sefydlwyd i ddiwallu anghenion pobl anabl.

 

5. Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

13 Mehefin 2024

 

 

 

Camau i’w cymryd:

 

·        Ysgrifennu at y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Gweinidog mewn perthynas â thaliadau gofal.

·        Gofyn am ymateb pellach gan Lee Waters AS, a gwahodd Mr Waters neu ei olynydd i gyfarfod yn y dyfodol.